Teifion Maddocks EnvDip

Swyddog Cynaliadwyedd a Llesiant
Prifysgol Abertawe

Mae Teifion Maddocks wedi neilltuo ei fywyd gwaith i wella llesiant pobl eraill a diogelu'r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Gyda gradd mewn rheoli risg amgylcheddol, dechreuodd Teifion ei yrfa fel gweithiwr proffesiynol yr amgylchedd, iechyd a diogelwch gyda'r cawr byd-eang General Electric. 

Ar ôl llwyddo i weithredu mentrau newid diwylliant Iechyd a'r Amgylchedd a chyflawni safon ryngwladol ar gyfer rheoli amgylcheddol ISO14001 yn GE, teimlai'r 'Hiraeth', sy'n galw am gartref. Mae bellach yn byw ger arfordir hardd Bae Abertawe gyda'i wraig a'i ddau o blant. 

Parhaodd Teifion â'i angerdd dros ddiogelu'r amgylchedd gan symud i Tata Steel. Gan gydweithio â rheoleiddwyr, gwaith cymunedol a dur Port Talbot, ceisiodd ffyrdd o leihau llygredd lleol a sicrhau cymeradwyaeth amgylcheddol ar gyfer ailadeiladu ffwrnais chwyth gwerth £150m yn 2015. 

Mae Teifion bellach wedi troi ei sylw at sicrhau cynaliadwyedd a llesiant ym Mhrifysgol Abertawe. Gan weithio gyda'r tîm cynaliadwyedd, sefydlodd Teifion yr ap ymgysylltu SWell sydd wedi ennill gwobrau, sy'n annog ac yn gwobrwyo cymuned y Brifysgol i gymryd camau tuag at wella llesiant a chynaliadwyedd amgylcheddol. Mae Teifion yn arwain gwaith ar gaffael cynaliadwy a moesegol, rhaglen Safon Iechyd Gorfforaethol Llywodraeth Cymru a chynlluniau argyfwng hinsawdd y Brifysgol.