Dr Jennifer Rudd

Rheolwr Rhaglen
Cymunedau Arloesi'r Economi Gylchol

Dr Jennifer Rudd yw rheolwr y rhaglen Cymunedau Arloesi'r Economi Gylchol (CEIC).  Cefndir Dr Rudd yw lliniaru newid yn yr hinsawdd. Cwblhaodd ei PhD mewn cemeg ym Mhrifysgol Basel yn y Swistir cyn cael cymrodoriaeth i weithio ym Mhrifysgol Gogledd Carolina, UDA. Yn dilyn hyn, symudodd Dr Rudd i Brifysgol Abertawe i weithio ar y prosiect Lleihau Allyriadau Carbon Diwydiannol a ariennir gan WEFO. Mae'r prosiect yn defnyddio egwyddorion economi gylchol a'i nod yw cipio carbon deuocsid o ffynonellau diwydiannol ac yna ei storio neu ei drosi i gynhyrchion masnachol. 

Mae Dr Rudd yn gyfathrebwr ac addysgwr gwyddoniaeth medrus, sy'n arwain y rhaglen addysg newid yn yr hinsawdd Chi a CO2.  Symudodd Dr Rudd i'r Ysgol Reolaeth ym mis Medi 2020.  Mae'n edrych ymlaen at gefnogi arweinwyr a rheolwyr mewn gwasanaethau cyhoeddus i leihau ôl troed carbon eu sefydliadau drwy gyd-greu datrysiadau gwasanaeth newydd sy'n cael effaith ar draws y rhanbarth.