Glyn Roberts

Llywydd
FUW

Daeth Glyn yn Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru yn 2015. Fel Llywydd, mae wedi helpu i sicrhau cyllid fferm teg i ffermwyr yng Nghymru; wedi canolbwyntio ar bwysigrwydd amaethyddiaeth mewn cymunedau gwledig ac ar yr iaith Gymraeg; ac mae wedi hyrwyddo pam mae ffermio'n bwysig ar raddfa genedlaethol.

Nid mab fferm yw Glyn ac i ddechrau bu'n gweithio fel bugail cyn iddo sicrhau tenantiaeth Dylasau Uchaf yn ystod 1983.  Fferm 350 erw yw hon sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.