Neal O’Leary MRICS

Cyfarwyddwr Rhaglen
Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif

Mae Neil yn Syrfëwr Adeilad Siartredig ac yn Feirniad Gwobrau RICS Cymru sydd â dros 30 mlynedd o brofiad o fuddsoddi mewn eiddo, adeiladu a rheoli ystadau ar draws sefydliadau yn y sector preifat, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector.  

Ar hyn o bryd, fe'i cyflogir fel Cyfarwyddwr Rhaglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif gwerth £2.3bn Llywodraeth Cymru, ac mae'n gyfrifol am arwain a rheoli'r holl fuddsoddiad seilwaith ar gyfer addysg yng Nghymru. 

Cyn dychwelyd i Seilwaith Addysg yn 2019, treuliodd Neal 11 mlynedd yn arwain Eiddo mewn Gofal Cadw, gan arwain cadwraeth, buddsoddi cyfalaf strategol, FM a rheoli asedau.  Yn ystod y cyfnod hwn datblygodd a gweithredodd strategaeth gan sicrhau gostyngiad o 43% (2010-2019) mewn allyriadau carbon ar draws 130 o safleoedd hanesyddol tra bod nifer yr ymwelwyr ac incwm wedi cyrraedd y niferoedd uchaf erioed.  

Aelod o Fwrdd Adolygu Cymheiriaid Ystadau Historic Scotland a chyn-aelod o Grŵp Cynghori Buddsoddi mewn Treftadaeth Gogledd Iwerddon.
Yn gyn-gyfarwyddwr (2010-2016) a Chadeirydd Cambria Maintenance Services Ltd., yn arwain y cwmni drwy ymgorffori i un o lwyddiannau amlwg y diwydiant, gan gyflogi 130 o staff sy'n darparu dros £20m o wasanaethau.

Mae gan Neal angerdd ddofn dros ddarparu adeiladau cynaliadwy yng Nghymru ar gyfer ein pobl ifanc a chenedlaethau'r dyfodol – ar hyn o bryd yn datblygu'r strategaeth Sero Net ar gyfer yr Ystad Addysg yng Nghymru.