Dr Clive Walmsley

Prif Gynghorydd Newid Hinsawdd
NRW

Clive sy'n rhoi'r arweiniad swyddogaethol i Gyfoeth Naturiol Cymru ar faterion strategol yn ymwneud â newid yn yr hinsawdd, gan roi cyngor arbenigol i sicrhau bod risgiau ac effeithiau'n cael eu gwerthuso a'u rheoli'n fewnol, ac yn cynghori'n allanol ar oblygiadau newid yn yr hinsawdd i Gymru. Un ffocws allweddol yw sicrhau dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth o integreiddio lliniaru ac ymaddasu yng ngwaith Cyfoeth Naturiol Cymru a sicrhau yr ymdrinir â'r newid yn yr hinsawdd drwy reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Mae wedi cyfrannu at gynhyrchu canllawiau ar addasu i newid yn yr hinsawdd yn y DU, ac yn rhyngwladol ar gyfer y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol. Mae hyn wedi canolbwyntio'n benodol ar y rhyngweithio rhwng newid yn yr hinsawdd, bioamrywiaeth a phrosesau ecosystemau. Mae Clive wedi bod yn gyfrifol am amrywiaeth o fentrau monitro amgylcheddol, gan gynnwys cynhyrchu The Living Environment of Wales, adroddiad cyntaf Cyflwr yr Amgylchedd Cymru a rheoli'r gwaith o gynhyrchu cronfa ddata meta o setiau data monitro amgylcheddol i Gymru. Cyn hynny, cynhaliodd ymchwil ecolegol, gan arbenigo mewn ecoleg planhigion arfordirol ac adfer cynefinoedd. Mae wedi bod yn aelod o Gomisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd ac yn Gyfarwyddwr Allgymorth Consortiwm Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd.