Elspeth Jones

Cyfarwyddwr
Maint Cymru

Elspeth yw Cyfarwyddwr Maint Cymru, elusen newid yn yr hinsawdd yng Nghaerdydd. Mae Maint Cymru yn darparu cyllid ac arbenigedd i gymunedau lleol a chynhenid mewn rhanbarthau trofannol i'w cefnogi i ddiogelu a chynnal eu coedwigoedd gwerthfawr, tyfu mwy o goed a sefydlu bywoliaeth gynaliadwy. Mae Maint Cymru hefyd yn cynnal rhaglenni addysg, ymgysylltu â'r gymuned ac eiriolaeth yng Nghymru, gyda'r nod o ysbrydoli pobl yng Nghymru i sylweddoli y gallant fod yn rhan o'r ateb. 

Yn amgylcheddwr angerddol, mae Elspeth wedi gweithio fel bargyfreithiwr masnachol yn Llundain yn flaenorol ac yna yn yr NGO cyfraith amgylcheddol, ClientEarth.