Magnus Harrold

Rheolwr Arloesi
ORE Catapult

Mae Magnus Harrold yn Rheolwr Arloesi yn yr ORE Catapult, prif ganolfan arloesi ac ymchwil technoleg y DU ar gyfer ynni gwynt, tonnau ac ynni'r llanw ar y môr. Wedi’i fagu ar Ynysoedd Erch, ysbrydolwyd Magnus gan bŵer y môr o oedran ifanc. Symudodd i Gymru yn 2013 i gwblhau Doethuriaeth Beirianneg (EngD) tra'n rhan o'r tîm a oedd wedi cynllunio, gosod a phrofi tyrbin ffrwd llanw cyntaf Cymru sy'n gysylltiedig â grid. Mae wedi bod yn weithgar yn y maes ynni adnewyddadwy ar y môr ers hynny ac ar hyn o bryd mae'n rhan o dîm ORE Catapult yng Nghymru sy'n cyflawni prosiect Canolfan Ragoriaeth Peirianneg Ynni Morol (MEECE).