Tim Ash Vie

Cyfarwyddwr
Grŵp Hinsawdd Ysgrifenyddiaeth y Glymblaid Under2

Ymunodd Tim Ash Vie â'r Grŵp Hinsawdd ym mis Medi 2017 fel Cyfarwyddwr Ysgrifenyddiaeth Clymblaid Under2. Mae'r Glymblaid Under2 yn rhwydwaith rhyngwladol blaenllaw o lywodraethau is-genedlaethol sydd wedi ymrwymo i weithredu uchelgeisiol dros yr hinsawdd, y mae'r Grŵp Hinsawdd yn gweithredu fel Ysgrifenyddiaeth ar ei gyfer. 

Ymunodd Tim â'r Grŵp Hinsawdd o Adam Smith International lle'r oedd yn Bennaeth Newid yn yr Hinsawdd. Cyn hynny, bu'n Gyfarwyddwr yn PricewaterhouseCoopers (PwC), lle datblygodd a sefydlodd y Rhwydwaith Gwybodaeth Hinsawdd a Datblygu (CDKN), a bu'n gwasanaethu fel ei Brif Swyddog Gweithredu cyntaf. Cyn hyn, roedd Tim yn was sifil yn y DU yn Adrannau'r Amgylchedd, y Trysorlys a'r Weinyddiaeth Amddiffyn.