Ben Pritchard

Cyfarwyddwr Cyswllt
Arup

Mae Ben Pritchard yn Gyfarwyddwr Cyswllt ym maes cynllunio trafnidiaeth yn Arup gyda phrofiad sylweddol o weithio ar brosiectau datblygu a thrafnidiaeth yng Nghymru, y DU a thramor. Mae ei waith yn cynnwys datblygu achosion busnes, cymorth cynghori i gleientiaid ac arweinyddiaeth prosiectau. 

Mae Ben wedi creu achos dros fuddsoddiadau allweddol ar draws datblygiadau trafnidiaeth ac economaidd yng Nghymru, gan sicrhau buddsoddiad gan y sector cyhoeddus a'r sector preifat. Mae gwaith ac ymchwil diweddar yn cynnwys ymateb ôl-bandemig tuag at adferiad cynaliadwy i economïau dinesig a systemau trafnidiaeth yng Nghymru. 

Mae gwaith Ben gyda Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru ar ddatgarboneiddio wedi cynnwys paratoi'r cyfeiriad ar gyfer buddsoddi a darparu cerbydau trydan. 

Mae'n aelod presennol o Fwrdd Cynghori Datblygu Diwydiannol Cymru a Chanolfan Cydweithredol Cymru.