Jon Maddy

Cyfarwyddwr Canolfan Hydrogen
Prifysgol De Cymru

Mae John Maddy yn Gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil a Datblygu Hydrogen Prifysgol De Cymru ym Maglan, ble mae o’n arwain gweithgareddau Ymchwil a Datblygu’r Brifysgol ar gynhyrchiant hydrogen electrolytig, adferiad a phuro hydrogen, storio ynni hydrogen, cynhyrchiant hydrogen thermogemegol, hydrogen trafnidiaeth a gosodiadau celloedd tanwydd, yn ogystal â hydrogen fel mecanwaith datgarboneiddio ar gyfer diwydiant a gwresogi. Cyn ymuno â’r Brifysgol, cafodd Jon bron i ddau ddegawd o brofiad yn y diwydiant nwyon diwydiannol, gyda phwyslais neilltuol ar bob agwedd ar hydrogen diwydiannol. Mae’r profiad hwn yn cefnogi nod Canolfan Ymchwil a Datblygu Hydrogen Prifysgol De Cymru i ganolbwyntio ar hydrogen TRL canolig i hwyrach ac Ymchwil a Datblygiad celloedd tanwydd, gyda phwyslais cryf ar gydweithredu gyda diwydiant a llywodraeth yn ogystal â phartneriaid academaidd.

Gyda Tata Steel, roedd Jon yn gyfrifol am greu a thyfu Clwstwr Diwydiannol De Cymru, sydd yn gydweithrediad dros 40 o bartneriaid diwydiannol blaenllaw. Jon yw academydd arweiniol SWIC, cynrychiolydd rhanbarthol Bwrdd Rheoli Canolfan Ymchwil ac Arloesi Datgarboneiddio Diwydiannol (IDRIC) ac mae’n aelod o Gyngor Cynghorol Hydrogen Llywodraeth y DU