Holly Cross

Cyfarwyddwr (Ysgrifennydd)
CARE

Mae Holly wedi gweithio yn y sector amgylcheddol ers blynyddoedd lawer ym maes datblygu cymunedol a phrosiectau creadigol, ac mae ganddi brofiad o hunan-adeiladu a deunyddiau a dulliau adeiladu amgen. Ar hyn o bryd, mae hi'n cyd-reoli tri phrosiect craidd CARE, pob un wedi'i leoli yng Ngogledd Ddwyrain Sir Benfro; y Tyrbin Gwynt Cymunedol 700kW yn Fferm Trefawr, Stiwdio ar ran Cymuned yn Hermon, a Thyfu Cysylltiadau Gwell. Mae ganddi brofiad helaeth mewn gweinyddiaeth a chyllid yn y sector nid er elw, mae'n glerc i Gyngor Cymuned Clydau, ac mae hefyd wedi arwain ar sefydlu'r prosiect Neuaddau Cymorth i gefnogi cyfleusterau cymunedol yn Sir Benfro.