Brendan Kelly

Trefnydd Rhanbarthol
RMT

Brendan Kelly yw'r Trefnydd Rhanbarthol etholedig ar gyfer Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffordd, Morwrol a Thrafnidiaeth (RMT) ar gyfer Rhanbarth De Cymru a Gorllewin Lloegr. 

Mae wedi bod yn un o swyddogion llawn amser yr undeb am 12 o flynyddoedd.  Mae  Brendan wedi gweithio ym maes cludiant ar y ffordd ac yna'r rheilffyrdd am gyfanswm o 43 mlynedd, gan ddechrau fel prentis adeiladwr coets ym 1977. 

Mae RMT yn undeb trafnidiaeth arbenigol sy'n delio â rheilffyrdd, morgludiant, rigiau ar y môr, cludiant ar y ffordd, tacsis ac ati. Mae diogelu'r amgylchedd wrth wraidd nodau RMT ac mae'n cydnabod natur ganolog trafnidiaeth gyhoeddus wrth gyflawni targedau amgylcheddol. Mae RMT hefyd yn cydnabod bod amddiffyn swyddi a thelerau ac amodau gweithwyr yn hanfodol wrth i ddiwydiannau addasu a newid i fodloni safonau newydd. 

Dywed Brendan:

"Mae gan undebau llafur fel RMT rôl hanfodol wrth berswadio ac yna cynorthwyo cyflogwyr i gyrraedd y safonau gorau ar gyfer eu sector. Wrth wraidd yr holl undebaeth llafur mae'r frwydr i newid a gwneud y byd yn lle tecach, gwell i'r genhedlaeth nesaf a pheidio â chaniatáu i elw a thrachwant ddinistrio'r amgylchedd y byddant yn ei etifeddu."