Dr Dafydd Trystan Davies

Cadeirydd
Bwrdd Teithio Llesol

Yn ddiweddar, penodwyd Dr Dafydd Trystan Davies yn Gadeirydd annibynnol y Bwrdd Teithio Llesol. Mae Dafydd wedi bod yn hyrwyddwr effeithiol o deithio llesol. Yn y gorffennol mae wedi gwasanaethu fel aelod cynghorol o fwrdd Sustrans yng Nghymru ac yn gyfarwyddwr i Hyfforddiant Beicio Cymru. Yn rhinwedd ei swydd fel cadeirydd llywodraethwyr Ysgol Hamadryad yng Nghaerdydd, mae wedi bod yn rhan o ddatblygu un o'r cynlluniau teithio ysgol fwyaf radical yn y wlad. Mae hefyd yn aelod o fwrdd Chwaraeon Cymru ac yn gadeirydd Rhedeg Cymru, sy'n ceisio cael mwy o bobl i gymryd rhan mewn rhedeg.