Alison Thomas

Pennaeth Integreiddio Polisi
Llywodraeth Cymru

Alison Thomas yw Pennaeth Integreiddio Polisi yn Llywodraeth Cymru. Mae hi'n gynllunydd trafnidiaeth siartredig sydd â phrofiad yn y sectorau preifat a chyhoeddus, ac mae ganddi arbenigedd penodol mewn datblygu a gweithredu polisïau a strategaethau i gynyddu teithio cynaliadwy a llesol.

Mae Alison wedi bod yn gweithio ar ddatblygu Strategaeth Drafnidiaeth newydd i Gymru ac mae'n awyddus i chwarae rhan weithredol wrth lunio'r agenda hon ac i helpu i gyflawni'r system drafnidiaeth effeithiol, iach, wedi'i ddatgarboneiddio sydd ei hangen ar Gymru.