Rhaglen ariannu a gydnabyddir yn rhyngwladol yw Sêr Crymu a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu i adeiladu sylfaen ymchwil gryfach ym maes gwyddoniaeth yng Nghymru. 

Mae'r rhaglen wedi cefnogi dros 500 o ymchwilwyr o 29 o wledydd gwahanol i weithio mewn prifysgolion yng Nghymru.

Mae'r digwyddiad hwn, a gadeirir gan yr Athro Peter Halligan, Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru, yn darparu cyfle i glywed gan rai o'r ymchwilwyr sydd wedi bod yn rhan o'r cynllun wrth iddynt siarad am sut mae Sêr Cymru wedi dylanwadu ar eu llwybr gyrfa.