Os oes un peth a all eich helpu i wneud hynny yn yr oes sydd ohoni, technoleg yw hynny

Mewn digwyddiad rhithiol ym mis Mawrth, rydym yn rhoi mynediad i chi at arbenigwyr sydd wedi helpu busnesau Cymru i drawsnewid a thyfu - er gwaethaf popeth.

Byddwch hefyd yn clywed gan yr union bobl sydd wedi elwa - felly gallwch ddarganfod beth mae hynny wir yn ei olygu i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru.

Dywedodd Dr Neil Haine, rheolwr Ymchwil a Datblygu Cellpath, sydd wedi'i leoli yn y Drenewydd: "Rydym wedi gallu buddsoddi mewn peiriannau awtomatig sydd wedi ein helpu i gyflogi 19 arall, gweld cynnydd o 40% yn ein busnes allforio a chyflawni twf cyffredinol o 15%."

Dywedodd Matt Newland, rheolwr gyfarwyddwr Swallow Yachts, sydd wedi'i leoli yn Aberteifi: "Gyda chymorth arloesi, adeiladom gwch hwylio a enwebwyd am wobr mewn 15 mis a thyfu ei gwerthiannau allforio 20% mewn dwy flynedd."

Yn syml, mae'n ymwneud ag arloesi, ond peidiwch â gadael i hynny eich troi draw. Beth ydym yn ei olygu mewn gwirionedd, yw y byddwn yn eich cyflwyno i dechnoleg, pobl a chyllid a all eich helpu i weithio'n well a chynt i symleiddio, datblygu a thyfu eich busnes.

Byddwn yn trafod y manylion ac yn gofyn y cwestiynau fel bod gennych yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ganolbwyntio ar sut mae gwneud eich busnes yn fwy cynhyrchiol a mwy proffidiol.

Cofrestrwch nawr i:

  • Ddarganfod sut mae cael mynediad at y miliynau o bunnoedd o gyllid arloesi ar gael i fusnesau Cymru*
  • Dysgu am y mathau o gymorth arloesi ar gael gan y rhaglen arloesedd SMART a ariennir gan yr UE.
  • Deall sut mae cael mynediad at arbenigwyr arloesi profiadol Llywodraeth Cymru.
  •  ...a chael eich ysbrydoli gan straeon rhai o gyflogwyr mwyaf blaengar a mwyaf eu maint Cymru sy'n defnyddio technoleg o'u plaid, a fydd yn ymuno â ni fel siaradwyr gwadd.

 

Gwyddom ei fod yn heriol, ond mae siawns da y gallwn helpu. 
​*Meini prawf cymhwysedd ac amodau a thelerau’n berthnasol

Cofiwch SMART, rhowch ddydd Mercher 17 Mawrth yn eich dyddiadur nawr. 
Mae'n ddau awr o'ch amser lle cewch drafod busnes er lles eich busnes.