Mae her newid yn yr hinsawdd yn gofyn i bawb weithredu. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal Wythnos Hinsawdd Cymru i ddod â phobl ledled Cymru ynghyd i fynd i’r afael â materion hinsawdd allweddol ac i nodi blwyddyn tan Gynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig (COP26) a Chynllun Cyflenwi Carbon Isel newydd Cymru. Wedi'i osod yng nghyd-destun y pandemig coronafeirws, cynnwrf geowleidyddol a'r angen cynyddol i sicrhau cyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol, rhaid i wledydd ledled y byd ddod ynghyd, codi eu huchelgais a sbarduno gweithredu.
Bydd y sesiwn hon yn gosod y cyd-destun ar gyfer Wythnos Hinsawdd Cymru ac yn archwilio rôl ac uchelgais lleisiau Cymru yn COP26.
Yng Nghymru rydym yn gwneud pethau’n wahanol. Mae gennym ddeddf yng Nghymru sy’n ein helpu ni i gyd i gydweithio i wella ein hamgylchedd, ein heconomi, ein cymdeithas a’n diwylliant. Ei henw yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Cymru yw’r wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu dros lesiant cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol mewn ffordd sy’n cyd-fynd â Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig. Amcan Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yw hwyluso canlyniadau cadarnhaol ar gyfer pobl Cymru, ein planed a chenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.
Bydd y sesiwn hon yn gyfle i dri llais Cymreig blaenllaw drafod beth mae'r Ddeddf yn ei olygu i'r amgylchedd, sut mae'n dylanwadu ar weithredoedd Cymru ar newid yn yr hinsawdd, ac i fyfyrio ar eu profiad cronnus o arwain gweithredu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Ymunwch â’r sgwrs hon rhwng Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol annibynnol statudol Cyntaf y Byd a Chynrychiolydd Cymru ar Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd i glywed eu mewnwelediadau, eu myfyrdodau a’u huchelgais.
Flwyddyn nesaf bydd Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig (COP26) yn dod i’r DU, a bydd arweinwyr y byd yn dod ynghyd i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd trwy wneud ymrwymiadau newydd ac edrych ar sut y gallwn ddatblygu'r ‘llyfr rheolau’ i ateb yr her ddigynsail hon. Bydd hefyd yn gyfle unigryw i rannu gyda'n gilydd a dysgu gan ein gilydd. Gyda her mor fawr â'r newid yn yr hinsawdd, mae cydweithredu yn allweddol.
Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae Cymru wedi bod yn arwain camau i sicrhau bod cynaliadwyedd yn dechrau nid yn unig gartref, ond y gellir ei weld ym mhob un o'n gweithredoedd byd-eang. I'r gwrthwyneb, gall gweithredoedd ein partneriaid byd-eang hefyd helpu i ysgogi newid yng Nghymru. Bydd y digwyddiad hwn yn edrych ar sut mae gwahanol wledydd yn gweithredu ar newid yn yr hinsawdd yn eu cymunedau a sut y gallwn rannu a dysgu oddi wrth ein cydweithwyr byd-eang.
Bydd y sesiwn hon yn drafodaeth panel a fydd yn clywed sut mae gwahanol gymunedau yn gweithredu mewn gwahanol ffyrdd.