Os oes un peth a all eich helpu i wneud hynny yn yr oes sydd ohoni, technoleg yw hynny
Mewn digwyddiad rhithiol ym mis Mawrth, rydym yn rhoi mynediad i chi at arbenigwyr sydd wedi helpu busnesau Cymru i drawsnewid a thyfu - er gwaethaf popeth.
Byddwch hefyd yn clywed gan yr union bobl sydd wedi elwa - felly gallwch ddarganfod beth mae hynny wir yn ei olygu i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru.
Dywedodd Dr Neil Haine, rheolwr Ymchwil a Datblygu Cellpath, sydd wedi'i leoli yn y Drenewydd: "Rydym wedi gallu buddsoddi mewn peiriannau awtomatig sydd wedi ein helpu i gyflogi 19 arall, gweld cynnydd o 40% yn ein busnes allforio a chyflawni twf cyffredinol o 15%."
Dywedodd Matt Newland, rheolwr gyfarwyddwr Swallow Yachts, sydd wedi'i leoli yn Aberteifi: "Gyda chymorth arloesi, adeiladom gwch hwylio a enwebwyd am wobr mewn 15 mis a thyfu ei gwerthiannau allforio 20% mewn dwy flynedd."
Yn syml, mae'n ymwneud ag arloesi, ond peidiwch â gadael i hynny eich troi draw. Beth ydym yn ei olygu mewn gwirionedd, yw y byddwn yn eich cyflwyno i dechnoleg, pobl a chyllid a all eich helpu i weithio'n well a chynt i symleiddio, datblygu a thyfu eich busnes.
Byddwn yn trafod y manylion ac yn gofyn y cwestiynau fel bod gennych yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ganolbwyntio ar sut mae gwneud eich busnes yn fwy cynhyrchiol a mwy proffidiol.
Cofrestrwch nawr i:
Gwyddom ei fod yn heriol, ond mae siawns da y gallwn helpu.
*Meini prawf cymhwysedd ac amodau a thelerau’n berthnasol
Cofiwch SMART, rhowch ddydd Mercher 17 Mawrth yn eich dyddiadur nawr.
Mae'n ddau awr o'ch amser lle cewch drafod busnes er lles eich busnes.