Am y tro cyntaf, bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau am ddim, digidol a rhyngweithiol dros un wythnos, lle gall unrhyw un sy'n angerddol am newid yn yr hinsawdd ymuno â sgyrsiau gyda llunwyr polisi cenedlaethol a byd-eang, ymgyrchwyr ac arloeswyr ynghylch sut y gellir mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

Drwy gydol yr wythnos, bydd y sesiynau'n ymdrin â materion sy'n ymwneud ag amaethyddiaeth, pobl ifanc, ysbytai ac ysgolion, yn ogystal â ffasiwn, busnesau, symudedd a llawer mwy. Yn bwysicaf oll, bydd yn rhoi enghreifftiau ymarferol o'r hyn y gall unigolion a sefydliadau ei wneud eu hunain i helpu i frwydro yn erbyn argyfwng hinsawdd Cymru. 

Rhaglen

Cliciwch ar bob dydd i weld ein rhaglen. Gallwch wylio'r rhaglen yn fyw ar ein tudalen 'Cynnwys byw'.

Nov

02

Nov

03

Nov

04

Nov

05

Nov

06

Agor Wythnos Hinsawdd Cymru 2020
10:30  to  11:30

Mae her newid yn yr hinsawdd yn gofyn i bawb weithredu. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal Wythnos Hinsawdd Cymru i ddod â phobl ledled Cymru ynghyd i fynd i’r afael â materion hinsawdd allweddol ac i nodi blwyddyn tan Gynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig (COP26) a Chynllun Cyflenwi Carbon Isel newydd Cymru. Wedi'i osod yng nghyd-destun y pandemig coronafeirws, cynnwrf geowleidyddol a'r angen cynyddol i sicrhau cyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol, rhaid i wledydd ledled y byd ddod ynghyd, codi eu huchelgais a sbarduno gweithredu. 

Bydd y sesiwn hon yn gosod y cyd-destun ar gyfer Wythnos Hinsawdd Cymru ac yn archwilio rôl ac uchelgais lleisiau Cymru yn COP26.

Speakers:
Mark Drakeford. Prif Weinidog Cymru.
Nigel Topping. Hyrwyddwr Lefel Uchel y DU.
Chris Stark. Prif Weithredwr. Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Arloesol Cymru
13:00  to  14:00

Yng Nghymru rydym yn gwneud pethau’n wahanol. Mae gennym ddeddf yng Nghymru sy’n ein helpu ni i gyd i gydweithio i wella ein hamgylchedd, ein heconomi, ein cymdeithas a’n diwylliant. Ei henw yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. 

Cymru yw’r wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu dros lesiant cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol mewn ffordd sy’n cyd-fynd â Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig. Amcan Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yw hwyluso canlyniadau cadarnhaol ar gyfer pobl Cymru, ein planed a chenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. 

Bydd y sesiwn hon yn gyfle i dri llais Cymreig blaenllaw drafod beth mae'r Ddeddf yn ei olygu i'r amgylchedd, sut mae'n dylanwadu ar weithredoedd Cymru ar newid yn yr hinsawdd, ac i fyfyrio ar eu profiad cronnus o arwain gweithredu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Ymunwch â’r sgwrs hon rhwng Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol annibynnol statudol Cyntaf y Byd a Chynrychiolydd Cymru ar Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd i glywed eu mewnwelediadau, eu myfyrdodau a’u huchelgais.

Speakers:
Lesley Griffiths MS. Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig. Llywodraeth Cymru.
Dr Rebecca Heaton. Cynrychiolydd Cymru. Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd.
Sophie Howe. Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru.
Rôl Cymru yn y Byd a Chydweithredu Rhyngwladol
14:00  to  15:00

Flwyddyn nesaf bydd Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig (COP26) yn dod i’r DU, a bydd arweinwyr y byd yn dod ynghyd i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd trwy wneud ymrwymiadau newydd ac edrych ar sut y gallwn ddatblygu'r ‘llyfr rheolau’ i ateb yr her ddigynsail hon. Bydd hefyd yn gyfle unigryw i rannu gyda'n gilydd a dysgu gan ein gilydd. Gyda her mor fawr â'r newid yn yr hinsawdd, mae cydweithredu yn allweddol. 

Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae Cymru wedi bod yn arwain camau i sicrhau bod cynaliadwyedd yn dechrau nid yn unig gartref, ond y gellir ei weld ym mhob un o'n gweithredoedd byd-eang. I'r gwrthwyneb, gall gweithredoedd ein partneriaid byd-eang hefyd helpu i ysgogi newid yng Nghymru. Bydd y digwyddiad hwn yn edrych ar sut mae gwahanol wledydd yn gweithredu ar newid yn yr hinsawdd yn eu cymunedau a sut y gallwn rannu a dysgu oddi wrth ein cydweithwyr byd-eang. 

Speakers:
Lesley Griffiths MS. Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig. Llywodraeth Cymru.
Patricia Fuller. Llysgennad Newid yn yr Hinsawdd. Llywodraeth Canada.
Elspeth Jones. Cyfarwyddwr. Maint Cymru.
Tina Völker. Pennaeth yr Uned. (MWIDE) NRW.
Tim Ash Vie. Cyfarwyddwr. Grŵp Hinsawdd Ysgrifenyddiaeth y Glymblaid Under2.
Sut mae cymunedau yn gweithredu: Lleisiau Llawr Gwlad
15:00  to  16:30

Bydd y sesiwn hon yn drafodaeth panel a fydd yn clywed sut mae gwahanol gymunedau yn gweithredu mewn gwahanol ffyrdd.

Speakers:
Gwydion Ilan ap Wynn. Rheolwr Prosiect. Y Dref Werdd.
Heather McClure. Chyfarwyddwr. Aber Food Surplus.
Jim Bowen. Rheolwr. Clynfyw Care Farm.
Ann MacGarry. Cynghorydd tref. Machynlleth.
Ian Thomas. Rheolwr Datblygu. Croeso i'n Coedwig.
Dr Kate Hamilton. Cyfarwyddwr Rhaglen. Adfywio Cymru.
Holly Cross. Cyfarwyddwr (Ysgrifennydd). CARE.